Erbyn hyn, mae Ynni’r Ocar wedi llwyddo i dderbyn caniatâd cynllunio ar gyfer y system hydro ar yr Afon Galedffrwd. Fe gafodd y caniatâd ei roi ar Dachwedd y 6ed 2018.
Yn ogystal i hyn, rydym hefyd wedi derbyn cynnig i gysylltu i’r rhwydwaith trydannol gan Scottish Power Energy Networks (SPEN). Rydym yn falch i nodi fod y pris i gysylltu i’r rhywdwaith mymryn yn llai na’r hyn roeddym yn disgwyl, er dal yn swm sylweddol! O ganlyniad, mae 2 o’r 3 prif trwydded yn ei le – yr unig elfen sydd dal angen ei sortio yw’r un sy’n gysylltiedig â Chyfoeth Naturiol Cymru. Rydym ar ddeall fod hwn hefyd ar fin cael ei gwblhau.
Rydym yn obeithio y byddwn yn gallu cofrestru am gynllun y Feed-in Tariff, sy’n golygu ad-daliad o 6.43c am bob uned o drydan. Mae’r cynllun hon yn cau diwedd Mawrth 2019, a rhaid i ni gael yr holl trwyddedau yn ei le cyn wneud cais amdano. Os bydd pob dim yn ei le yn o fuan, rydym yn hyderus byddwn yn gymwys ar gyfer ad-daliadau’r Feed-in Tariff.
Y cam mawr nesaf yw sefydlu Ynni’r Ocar fel Cwmni Budd Cymunedol, fydd yn arwain ar ddatblygu a rheoli’r hydro. Mi fydd mwy o newyddion am y datblygiad yma, gyda cyfleoedd cyffrous i unigolion y gymuned fod yn rhan ohonom, yn y dyfodol.