Hafan

Pwy yw Coetir Mynydd?

Cwmni elusennol preifat, cyfyngedig trwy warant, a sefydlwyd yn 2003 gan bobl ym Mynydd Llandegai er mwyn bod yn berchen ar argae Coed y Parc a’r coetir cyfagos a gofalu amdanynt ar ran y gymuned. Prif ddiben Coetir Mynydd yw gofalu am y coed a bioamrywiaeth. Os hoffech wybod mwy amdanom ni neu’r coed, ewch i’n gwefan a’n tudalen Gweplyfr facebook.coetirmynydd.co.uk.

Mae croeso i aelodau newydd bob amser!

Pam mae Coetir Mynydd eisiau cynllun trydan dŵr?

Coed y Parc dam
Argae Coed y Parc

Wel – rydym yn berchen ar argae a adeiladwyd yn 1847 i gael ynni ar gyfer y gwaith yn Felin Fawr ac felly mae trydan dŵr yn rhan annatod o hanes y safle. Gan mai ni, Coetir Mynydd, biau’r argae a’r coed rŵan, mae arnom ni angen arian o ffynhonnell gynaliadwy er mwyn eu cynnal ac i gynnal gweithgareddau i helpu pobl i werthfawrogi coetiroedd, bioamrywiaeth a hanes a diwylliant y fro hon.

Fe wnaethom sylweddoli o’r cychwyn cyntaf mai’r pethau gorau i’w wneud yw cyfuno’r holl agweddau hyn a gweld a yw’n bosib cael cynllun trydan dŵr modern ar Afon Galedffrwd.

Rydym yn galw y cynllun Ynni’r Ocar.

Sut mae cynllun trydan dŵr yn gweithio?

micro hydroYn syml iawn – rydych yn cymryd peth o’r dŵr o ran uchaf afon, ei roi mewn pibell i fynd ag ef i lawr allt, yna trwy dyrbin ac yn ôl i’r afon. O ganlyniad i hyn bydd llai o ddŵr mewn un rhan o’r afon.

Mwyaf yn y byd yw’r pellter, yn fertigol, rhwng lle mae’r dŵr yn mynd i’r bibell a’r tyrbin, mwyaf yn y byd o bŵer y gallwch chi ei gynhyrchu (oherwydd disgyrchiant).

Petaech yn anfon yr holl ddŵr sydd yn yr afon i’r bibell, byddech yn cynhyrchu’r swm mwyaf posibl o bŵer, ond ni fydd hyn byth yn cael ei ganiatáu. Mae dwy ffordd y mae’r awdurdodau yn rheoli faint o ddŵr y cewch ei gymryd o’r afon: mae’n rhaid sicrhau bod isafswm o ddŵr yn llifo bob amser fel na fydd yr afon byth yn sychu ac fe bennir pa ganran o’r llif sydd ar gael y caniateir ei chymryd.

Pan fydd hi newydd fwrw glaw, mae llawer o ddŵr yn yr afon. Dyna pryd y cymerir y rhan fwyaf o’r dŵr ar gyfer y cynllun trydan. Ni chymerir dŵr pan fydd y llif yn mynd yn isel. Yr unig adeg y bydd cynllun trydan yn cynhyrchu pŵer yw pan fydd gan yr afon ddŵr i’w sbario, mewn gwirionedd.

Faint o drydan fydd y cynllun yn ei gynhyrchu?

Ar gyfer Afon Galedffrwd, bydd pibell â diamedr 56 cm yn cludo digon o ddŵr i redeg tyrbin 237 kW. O luosi hyn â’r amser y mae’r tyrbin yn debygol o fod yn rhedeg, rydym yn rhagweld y gallwn gynhyrchu 770 MW awr o drydan y flwyddyn.

Ar gyfartaledd, mae tŷ yn defnyddio 3,800 kW awr y flwyddyn. Felly gallai cynllun Galedffrwd gynhyrchu digon o drydan ar gyfer 200 o dai, sy’n golygu y gallai Mynydd Llandegai fod yn hunangynhaliol mewn trydan gan arbed 356 tunnell mewn allyriadau carbon bob blwyddyn.

Beth fydd yn newid am fod y llif yn is yn y rhan o’r afon lle bydd llai o ddŵr?

Cofiwch mai dim ond am 37% o’r amser y bydd y llif yn is nag y buasai fel arall, ac am lawer o’r amser hwn bydd lefel yr afon mor uchel fel mai prin y buasai neb yn sylwi bod peth dŵr wedi mynd. Y prif effaith yw fod y llif yn llai pan fydd yr afon rywfaint yn is, fel bod glannau’r afon yn llai llaith. Mae bryoffytau (mwsoglau a llysiau’r afu) yn aml yn gorfod cael lle llaith i dyfu ond mae arolygon manwl wedi cael eu cynnal ar hyd glannau Afon Galedffrwd, a oedd yn dangos na fyddai’r cynllun yn cael effaith sylweddol arnynt, ar yr amod eu bod yn dal i gael cysgod y coed. Cawsom arweiniad gan arbenigwyr sydd yn awgrymu na fyddai’r cynllun yn effeithio ar greaduriaid gwyllt eraill fel dyfrgwn neu bysgod, chwaith.

Beth fydd effaith y gored lle cymerir y dŵr?

Intake weir at Afon Ogwen
Afon Ogwen

Argae bychan sydd yma mewn gwirionedd, i reoli llif y dŵr er mwyn ei gyfeirio i mewn i’r bibell.

Gan fod rhaeadrau uchel yn rhan isaf yr afon, ni ddylai’r gored effeithio ar bysgod sy’n mudo, ond bydd llwybr pysgod yn cael ei osod lle mae’r dŵr yn mynd i’r bibell fel y gall pysgod barhau i symud ar hyd y rhan hon o’r afon.

Beth fydd effaith y bibell?

Pibell – Plas Tan y Bwlch

Ar wyneb y tir y bydd y bibell yn rhedeg y rhan fwyaf o’r ffordd ac ni ddylai effeithio fawr ddim ar y tir na’r coed cyfagos. Nid yw’n weladwy o ffyrdd na llwybrau cyhoeddus y rhan fwyaf o’r ffordd, er y gallai amharu ar yr olygfa mewn ambell fan, efallai. Dylai fod yn bosib gofalu bod llystyfiant yn cuddio’r bibell, trwy gynllunio ymlaen a defnyddio rhywfaint o ddyfeisgarwch.

Faint o lanast fydd y gwaith adeiladu yn ei achosi?

Cwestiwn da! Os bydd cynllun yn cael ei ddylunio a’i roi ar waith yn drefnus, ysgafn iawn yw effaith y gwaith adeiladu. Er hynny mae’n siŵr o darfu ar yr ardal i ryw raddau. Yr adeg bwysicaf ar gyfer ystyried effaith y gwaith adeiladu yw pan wneir y cynlluniau manwl. Bydd y dull a ddewisir ar gyfer gosod y bibell yn hollbwysig ac ar hyn o bryd nid ydym yn gwybod beth fydd yn bosibl yn Afon Galedffrwd.

Beth am yr effaith ar fywyd gwyllt pan fydd y cynllun yn cael ei adeiladu?

Mae’r holl goed ar hyd llwybr y bibell wedi cael eu mapio fel y gellir osgoi coed (a’u gwreiddiau) wrth osod y bibell ac fel na fydd angen torri rhyw lawer o goed. Mae’r arolygon a gynhaliwyd o ddyfrgwn ac ystlumod wedi tynnu sylw at rai mannau sy’n bwysig ar gyfer y rhywogaethau hyn a byddant yn cael eu rheoli’n ofalus drwy sgrinio, darparu safleoedd eraill ac, yn anad dim, amseru’r gwaith adeiladu (tymhorau’r flwyddyn ac adegau o’r dydd) i osgoi tarfu ar yr anifeiliaid.

Beth am nodweddion hanesyddol?

Ni chafwyd hyd i unrhyw nodweddion archaeolegol o bwys ar lwybr y bibell.

Fodd bynnag, mae cynllun trydan dŵr wedi bod yn y dyffryn o’r blaen ac rydym yn bwriadu dilyn yr un llinell a’r bibell flaenorol. Mae waliau cynnal isel i’w gweld ac ategolion concrid lle roedd yn croesi’r afon.

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi ymweld â’r safle a dweud y dylid tynnu lluniau o’r nodweddion hyn a’u cofnodi cyn dechrau adeiladu.

Sut y gallai’r gymuned elwa o’r cynllun?

Y manteision amlwg:

  • Bydd ein hôl troed carbon yn llai (ar hyn o bryd, yng Nghymru, rydym yn cael y rhan fwyaf o’n trydan drwy losgi olew, nwy a glo)
  • Ffynhonnell incwm i gynnal yr argae a’r coetir
  • Ar wahân i hynny, mae’n dibynnu mewn gwirionedd beth y mae ar y gymuned ei eisiau a sut yn union y bydd y cynllun yn cael ei ddatblygu a’i ddefnyddio.

Faint fydd hyn yn ei gostio?

Fyddwn ni ddim yn gwybod yn union nes i’r dylunio manwl gael ei wneud ar ôl i ni gael caniatâd cynllunio. Mae’n debyg y byddai tua £800,000 i £900,000.

Fydd y cynllun yn talu’i ffordd?

Mewn gair, bydd! I gael ateb llawnach, byddai’n rhaid cymryd i ystyriaeth sut yn union y caiff y trydan ei werthu, am faint, i bwy, a sut y bydd y cyfalaf yn cael ei godi…
Mae’r holl bethau hyn yn gymhleth ac mae llawer o wahanol bosibiliadau. Ar hyn o bryd, y cyfan sydd arnom eisiau ei wybod yw beth yw barn ein cymuned. A ddylai’r cynllun fynd yn ei flaen?

Beth nesaf?

Os bydd y gymuned o blaid y cynllun wedi i ni ymgynghori:

  • Gwneud cais i Gyfoeth Naturiol Cymru am drwydded tynnu dŵr
  • Cwblhau’r gwaith papur ar gyfer cael caniatâd. Bydd yn cynnwys dyluniad amlinellol, cynlluniau ar gyfer y safle a’r dull y bwriedir gosod y cyfan
  • Gwneud cais i Gyngor Gwynedd am ganiatâd cynllunio
  • Trafod a sefydlu ‘penawdau’r telerau’ ar gyfer prydlesi gyda thirfeddianwyr

Sylwer:Pan wneir pob cais, mae’n bosib y gofynnir inni newid pethau neu ein bod yn methu cael caniatâd. Bydd gwneud y ceisiadau hyn yn costio tua £10,000 neu fwy – mae’n rhaid i ni gael hyd i’r arian..

Ar ôl cael pob caniatâd

Coetir Mynydd yn barod i roi’r cynllun yn nwylo datblygwr.

Y cynllun manwl – Dyna pryd y bydd gennym amcan pendant beth sydd am ddigwydd. Byddwn yn adnabod unrhyw ddrwgeffeithiau a chynllunio sut i’w rheoli a’u lliniaru. Mae’r cynllun rheoli yn bwysig iawn wrth fynd ati i sefydlu’r cynllun a dewis y dulliau gorau ar gyfer ei osod yn ei le ac yn y blaen. Bydd contractwyr yn cael eu cyflogi i osod pethau yn eu lle yn unol â’r cynllun rheoli. Rydym yn ystyried cynnwys cymalau yn y contractau fel y bydd yn rhaid i gontractwyr unioni pethau, a thalu iawndal efallai, os byddant yn achosi unrhyw ddifrod y buasent wedi gallu ei osgoi.
Bydd yn rhaid gwneud hyn i gyd cyn y gallwn wybod faint fydd y cynllun yn ei gostio.

Talu am y cynllun… Pwy sydd am dalu, a sut?