Sut y datblygodd y cynlluniau trydan dŵr?
2004 | Coetir Mynydd yn cwblhau pryniant argae Coed y Parc a’r coetir o’i amgylch |
2005 | Gwaith i ystyried y posibilrwydd o drwsio’r argae |
2006 | Methu cael arian (£90,000) i drwsio’r argae gan Gronfa yr Ardoll Agregau – penderfynu y byddai’n well ei drwsio ar yr un pryd ag y gosodir cynllun trydan dŵr er mwyn rhannu’r costau a sicrhau incwm tymor hir fel y gallwn dalu costau cynnal a chadw. Gosod synhwyrydd lefel yn yr argae i gael amcan am lif yr afon (gydag arian gan First Hydro) – y canlyniadau cyntaf yn awgrymu y byddai’n bosib i argae Coed y Parc gynhyrchu 10 kW o drydan. |
2007 | Dechrau cysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Gwynedd ac yn y blaen. Dim grantiau penodol ar gael ar gyfer cynlluniau trydan dŵr cymunedol bach – ceisiadau aflwyddiannus am arian gan e.on a First Hydro i gynnal astudiaethau o’r posibiliadau. |
2008 | Methu cael hyd i unrhyw ffynonellau arian ar gyfer datblygu cynlluniau trydan dŵr. |
2009 | Adroddiad ar y posibiliadau ar gyfer adfer a defnyddio’r olwyni dŵr gwreiddiol yn Felin Fawr – y casgliad cyffredinol oedd na fyddai’n bosib adfer y seilwaith am ei fod wedi dadfeilio gormod. Ni fyddai’n bosib cynhyrchu llawer o drydan (6-10 kW yn unig). |
2010 | Amgylchedd Cymru’n talu i gwmni Dulas wneud adroddiad rhagarweiniol gan edrych ar ddau bosibilrwydd: • Mewnlif yn argae Coed y Parc 12-15 kW • Mewnlif yn argae Llyn Pen Bont (uwchlaw pont Amana) 100 kW Penderfynu edrych ar bosibiliadau eraill, o fewn tir Coetir Mynydd ei hun, er mwyn osgoi unrhyw broblemau o ran cysylltu â thirfeddianwyr cyfagos a dod i gytundeb â nhw. |
2011 | Y Waterloo Foundation yn talu am Astudiaeth o’r Posibiliadau gan gwmni Dulas. Ystyriwyd dau opsiwn sef mewnlif yn yr argae neu yn y gronfa ddŵr. Nid oedd yn ymddangos bod yr un o’r ddau yn bosib o safbwynt ariannol. Amlinellwyd y posibilrwydd o osod cynllun 5kW, na fyddai’n gostus, er mwyn cael ychydig o incwm. |
2012 | Prynu darn o dir ym mhen isa’r coed – at ddibenion cadwraethol yn bennaf, ond mae hen garej wedi mynd â’i phen iddi yno, a’r lleoliad yn ddelfrydol ar gyfer cwt tyrbin i gynllun trydan dŵr. |
2014 | Ailddechrau gweithio ar y syniad gan fod cynlluniau trydan dŵr cymunedol eraill yn cael eu sefydlu ac yn profi’n ymarferol. Arian gan Ynni’r Fro i gomisiynu Ellergreen i gynnal astudiaeth ragarweiniol er mwyn ystyried unwaith eto y posibilrwydd o gael mewnlif yn uchel i fyny, fel yr oedd Dulas wedi awgrymu yn 2010. Cyn gwneud cais, holi Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch trwydded tynnu dŵr a Chyngor Gwynedd ynghylch caniatâd cynllunio – nid oedd unrhyw wrthwynebiad mawr. Cafwyd ar ddeall pa arolygon penodol fyddai eu hangen i wneud cais. Cael cynnig gan Scottish Power ar gyfer cysylltu â’r grid. |
2015 | Cael arian gan Gronfa Buddsoddi Cymunedol Mantell Gwynedd er mwyn ymgynghori â phobl y pentref, ac arian gan Ynni Lleol ar gyfer astudiaeth o’r posibiliadau. |
2016 | Ynni Lleol yn rhoi’r arian ym mis Hydref ac arian am fod ar gael gan Fantell Gwynedd. |
2017 | Ymgynghori â’r gymuned |