Ynni’r Ocar – Awst 2018

Mae peth amser wedi mynd heibio bellach ers i’r ymgynghoriad cymunedol ynghylch cynllun trydan dŵr Galedffrwyd gael ei gynnal ddechrau y llynedd, ond o’r diwedd rydym wedi cyrraedd y cam nesaf yn y broses:

Cyflwynwyd cais i Gyngor Gwynedd am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer y cynllun trydan dŵr ar 19 Gorffennaf 2018. Bydd y cyfnod ymgynghori 21 diwrnod ar gyfer y cais yn dechrau ar 2 Awst ac yn dod i ben ar 23 Awst, gyda’r penderfyniad yn cael ei wneud ar 12 Medi. Cyfeirnod y cais yw C18/0657/16/LL a gellir gweld y dogfennau cyflawn ar borth Cynllunio Gwynedd, Dilyn a Darganfod. Rydym wedi cael gwybod y bydd y Swyddfa Gynllunio yn derbyn sylwadau ar ôl 23 Awst, tan 12 Medi, yng ngoleuni’r anawsterau presennol gyda’r porth cynllunio ar-lein. Gallwch hefyd weld y dogfennau yn Swyddfa Gynllunio Caernarfon trwy wneud trefniadau ymlaen llaw gyda’r Gwasanaeth Cynllunio.

Ym mis Chwefror 2018 aethom ati i gyflwyno cais i CNC am drwydded Tynnu Dŵr – yn ychwanegol at yr arolygon a gyflwynwyd, gofynnwyd inni baratoi Asesiad o Effeithiau Cronnol y dŵr a dynnir ar hydromorffoleg yr afon o safbwynt y strwythurau artiffisial eraill sydd eisoes yn bresennol.
Rydym newydd gael arian ar gyfer hyn a bydd yr adroddiad angenrheidiol yn cael ei baratoi erbyn diwedd mis Medi.