Llinell amser

Sut y datblygodd y cynlluniau trydan dŵr?

2004 Coetir Mynydd yn cwblhau pryniant argae Coed y Parc a’r coetir o’i amgylch
2005 Gwaith i ystyried y posibilrwydd o drwsio’r argae
2006 Methu cael arian (£90,000) i drwsio’r argae gan Gronfa yr Ardoll Agregau – penderfynu y byddai’n well ei drwsio ar yr un pryd ag y gosodir cynllun trydan dŵr er mwyn rhannu’r costau a sicrhau incwm tymor hir fel y gallwn dalu costau cynnal a chadw.
Gosod synhwyrydd lefel yn yr argae i gael amcan am lif yr afon (gydag arian gan First Hydro) – y canlyniadau cyntaf yn awgrymu y byddai’n bosib i argae Coed y Parc gynhyrchu 10 kW o drydan.
2007 Dechrau cysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Gwynedd ac yn y blaen. Dim grantiau penodol ar gael ar gyfer cynlluniau trydan dŵr cymunedol bach – ceisiadau aflwyddiannus am arian gan e.on a First Hydro i gynnal astudiaethau o’r posibiliadau.
2008 Methu cael hyd i unrhyw ffynonellau arian ar gyfer datblygu cynlluniau trydan dŵr.
2009 Adroddiad ar y posibiliadau ar gyfer adfer a defnyddio’r olwyni dŵr gwreiddiol yn Felin Fawr – y casgliad cyffredinol oedd na fyddai’n bosib adfer y seilwaith am ei fod wedi dadfeilio gormod. Ni fyddai’n bosib cynhyrchu llawer o drydan (6-10 kW yn unig).
2010 Amgylchedd Cymru’n talu i gwmni Dulas wneud adroddiad rhagarweiniol gan edrych ar ddau bosibilrwydd:
• Mewnlif yn argae Coed y Parc 12-15 kW
• Mewnlif yn argae Llyn Pen Bont (uwchlaw pont Amana) 100 kW
Penderfynu edrych ar bosibiliadau eraill, o fewn tir Coetir Mynydd ei hun, er mwyn osgoi unrhyw broblemau o ran cysylltu â thirfeddianwyr cyfagos a dod i gytundeb â nhw.
2011 Y Waterloo Foundation yn talu am Astudiaeth o’r Posibiliadau gan gwmni Dulas. Ystyriwyd dau opsiwn sef mewnlif yn yr argae neu yn y gronfa ddŵr. Nid oedd yn ymddangos bod yr un o’r ddau yn bosib o safbwynt ariannol.
Amlinellwyd y posibilrwydd o osod cynllun 5kW, na fyddai’n gostus, er mwyn cael ychydig o incwm.
2012 Prynu darn o dir ym mhen isa’r coed – at ddibenion cadwraethol yn bennaf, ond mae hen garej wedi mynd â’i phen iddi yno, a’r lleoliad yn ddelfrydol ar gyfer cwt tyrbin i gynllun trydan dŵr.
2014 Ailddechrau gweithio ar y syniad gan fod cynlluniau trydan dŵr cymunedol eraill yn cael eu sefydlu ac yn profi’n ymarferol.
Arian gan Ynni’r Fro i gomisiynu Ellergreen i gynnal astudiaeth ragarweiniol er mwyn ystyried unwaith eto y posibilrwydd o gael mewnlif yn uchel i fyny, fel yr oedd Dulas wedi awgrymu yn 2010.
Cyn gwneud cais, holi Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch trwydded tynnu dŵr a Chyngor Gwynedd ynghylch caniatâd cynllunio – nid oedd unrhyw wrthwynebiad mawr. Cafwyd ar ddeall pa arolygon penodol fyddai eu hangen i wneud cais.
Cael cynnig gan Scottish Power ar gyfer cysylltu â’r grid.
2015 Cael arian gan Gronfa Buddsoddi Cymunedol Mantell Gwynedd er mwyn ymgynghori â phobl y pentref, ac arian gan Ynni Lleol ar gyfer astudiaeth o’r posibiliadau.
2016 Ynni Lleol yn rhoi’r arian ym mis Hydref ac arian am fod ar gael gan Fantell Gwynedd.
2017 Ymgynghori â’r gymuned